Gall cwsmeriaid newydd sy’n cofrestru ar gyfer gwasanaethau digidol Cyllid a Thollau EF (CThEF) gofrestru nawr gan ddefnyddio GOV.UK One Login.
O heddiw ymlaen (9 Chwefror 2026), bydd cwsmeriaid unigol heb gyfrif Porth y Llywodraeth presennol yn creu GOV.UK One Login gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair yn unig, yn lle ID 10-12 digid, i gael mynediad at wasanaethau CThEF.
Pan gaiff ei gyflwyno’n llawn ar draws y llywodraeth, GOV.UK One Login fydd yr unig ffordd i gael mynediad at holl wasanaethau’r llywodraeth ar-lein.
Bydd y cyflwyniad i gwsmeriaid CThEF yn raddol a bydd yn cael ei fonitro’n agos. Nid oes angen i gwsmeriaid CThEF sydd â chyfrif Porth y Llywodraeth gymryd unrhyw gamau. Byddant yn parhau i ddefnyddio eu ID ar gyfer Porth y Llywodraeth presennol a chysylltir â nhw pan fydd hi’n bryd iddynt newid i GOV.UK One Login.
Os oes gan gwsmer CThEF presennol GOV.UK One Login ar gyfer gwasanaeth llywodraeth gwahanol (e.e. rheoli’ch pensiwn y wladwriaeth, neu wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau) – bydd angen iddynt hefyd barhau i ddefnyddio eu Porth Llywodraeth ar gyfer CThEF am y tro.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Mae CThEF wedi cyflwyno GOV.UK One Login ar gyfer cwsmeriaid newydd - GOV.UK.