Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i wahanu deunyddiau penodol er mwyn eu hailgylchu.
Mae'r rheolau hefyd yn gymwys i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff o weithleoedd.
Fel rhan o roi rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle ar waith fesul cam, o fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd y gofyniad ar weithleoedd i gyflwyno gwastraff penodol ar wahân i'w ailgylchu yn ymestyn i Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff bach (sWEEE). Yn flaenorol dim ond sWEEE heb ei werthu yr oedd yn ofynnol ei wahanu.
Fe welwch ganllaw i'r newidiadau ar wefan Ailgylchu Busnes Cymru WRAP.
Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle a sut i gydymffurfio. Byddwn yn diweddaru'r Cod ym mis Ebrill 2026 pan ddaw'r gyfraith cyfarpar trydanol bach i rym.
For further information please select the following link: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU.