
Mae crewyr cerddoriaeth y DU ar fin cael hwb i'w henillion wrth i lywodraeth y DU yrru'r diwydiant i gynhyrchu mesurau newydd i gefnogi artistiaid gwaddol, cyfansoddwyr caneuon a cherddorion sesiwn
Mae'r egwyddorion yn cynnwys fframwaith newydd ar gyfer ail-drafod contractau gan artistiaid a arwyddodd gytundebau recordiau cyn i ffrydio ddod yn gyffredin, yn ogystal â chefnogaeth i ddigideiddio eu hôl-gatalogau fel ei fod ar gael ar-lein. Nod hyn yw helpu artistiaid gwaddol i gynyddu eu henillion ffrydio ar gyfer eu corff presennol o waith.
Mae cefnogaeth i gyfansoddwyr yn cynnwys ymrwymiad i daliadau dyddiol a threuliau am sesiynau recordio, er mwyn sicrhau nad ydynt ar eu colled yn ariannol.
Cytunodd y Britsh Phonographic Industry (BPI) ac Undeb y Cerddorion hefyd i godi ffioedd cerddorion sesiwn o hyd at 40% ar gyfer sesiynau pop a 15% ar gyfer clasurol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu talu'n fwy teg am eu gwaith.
Mae'r egwyddorion y cytunwyd arnynt wedi'u mabwysiadu gan y BPI a’r Gymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol (AIM) a'u hargymell i'w haelodau yn y DU. Mae adrannau Universal Music Group, Sony Music Entertainment a Warner Music Group, tri label mwyaf y byd, hefyd wedi ymrwymo i'w cyflwyno.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Government secures label-led measures to boost earnings for UK artists - GOV.UK