
Heddiw (19 Mai 2025), mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau cytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Yn rhan o hyn, bydd cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) newydd yn ei gwneud hi'n haws i fwyd a diod gael ei fewnforio a'i allforio trwy leihau'r fiwrocratiaeth a oedd yn rhoi beichiau ar fusnesau ac a arweiniodd at giwiau lorïau hir ar y ffin. Ni fydd terfyn amser ar y cytundeb hwn, gan roi sicrwydd hanfodol i fusnesau.
Bydd rhai gwiriadau arferol ar gynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu dileu'n llwyr, gan ganiatáu i nwyddau lifo'n ddirwystr eto, gan gynnwys rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: PM secures new agreement with EU to benefit British people - GOV.UK a Datganiad Ysgrifenedig: Uwchgynhadledd yr UE a'r DU - Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio