Newyddion

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Bil Hawliau Cyflogaeth

group of warehouse employees

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni ei phecyn newydd o hawliau gweithwyr drwy'r cynllun i Wneud i Waith Dalu.

Mae'r newidiadau a gyflwynir trwy'r Bil Hawliau Cyflogaeth yn cynnwys hawliau statudol newydd a sefydlu'r Asiantaeth Gwaith Teg.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd mesurau allweddol yn y Bil yn dod i rym yn 2026 a 2027, tra bod ymgyngoriadau pellach wedi'u cynllunio o eleni i'r flwyddyn nesaf.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Roadmap unveiled to boost rights for half of all UK workers and provide certainty to employers - GOV.UK ac Implementing the Employment Rights Bill - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.