Newyddion

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cefnogaeth fawr i fusnesau bach a chanolig

4 people wearing high visibility jackets looking at digital devices

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i lansio hwb newydd i roi gwell mynediad i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) i’r gadwyn gyflenwi amddiffyn ac wedi ymrwymo i osod targedau gwariant uniongyrchol gyda BBaChau ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn erbyn mis Mehefin 2025.

Mae hwn yn gyfle i gwmnïau bach, sy'n aml yn eiddo i deuluoedd, gyfrannu eu harloesiadau, eu hyblygrwydd a’u gweithlu arbenigol tuag at y dasg o gryfhau amddiffynfeydd Prydain. Bydd yn helpu i greu swyddi newydd, gan roi hwb i economi trefi bach a maestrefi yn y DU.

Bydd yr Hwb newydd yn gweithio gyda chyflenwyr ar draws gwledydd a rhanbarthau'r DU i sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion yn llawn. Bydd hyn yn cryfhau caffael ym maes amddiffyn drwy gynyddu’r dewis a galluogi mynediad cyflymach at arloesi.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: New measures to boost small businesses benefitting from UK’s defence investment - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.