Bydd tua 500 o fusnesau mwyaf ynni-ddwys y DU yn arbed hyd at £420 miliwn y flwyddyn ar eu biliau trydan o fis Ebrill nesaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu'r gostyngiad ar ffioedd rhwydwaith trydan i fusnesau mewn sectorau fel dur, sment, gwydr a chemegau, sy'n cyflogi cyfanswm o tua 400,000 o bobl ledled y DU, o 60% i 90%.
Bydd y gostyngiad cynyddol hefyd yn lleihau costau i amrywiaeth o fusnesau ledled Cymru a'r Alban.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: British Businesses to Save over £400m a Year as Government Slashes Electricity Costs - GOV.UK.