Newyddion

Llywodraeth newydd Cymru yn cymeradwyo ei phrosiect ynni gwynt ar y môr cyntaf

Wind turbine

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi cymeradwyo ei phrosiect ynni gwynt ar y môr mawr cyntaf, sy'n nodi carreg filltir bwysig i uchelgeisiau Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Mae Caniatâd Adran 36 wedi cael ei roi ar gyfer Fferm Ynni Gwynt Llŷr, prosiect arloesol i brofi a dangos technoleg ynni gwynt ar y môr, sy'n cael ei ddatblygu gan Cierco Energy yn y Môr Celtaidd, oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae'r caniatâd yn garreg filltir bwysig i'r prosiect wrth iddo symud tuag at y cam adeiladu. 

Bydd y prosiect yn cyfrannu tuag at uchelgeisiau Cymru ar gyfer carbon sero-net, gyda disgwyl i tua 2,000 o swyddi gael eu creu yn ystod cyfnod adeiladu'r cynllun a rhagor o swyddi medrus pan fydd wedi cael ei gwblhau.

Cafodd Fferm Ynni Gwynt Llŷr Drwydded Forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mehefin a sicrhaodd hawliau gwely'r môr ym mis Gorffennaf ar ôl llofnodi Cytundeb Prydles gyda Ystad y Goron. 

Bydd y prosiect yn dangos technolegau arloesol ym maes ynni gwynt ar y môr a bydd yn gweithredu fel dangosiad ymarferol o sut y gall arloesi ryddhau adnoddau ynni gwynt ar y môr mewn dyfroedd dyfnach, ysgogi momentwm cynnar mewn adnewyddu diwydiannol a thwf rhanbarthol, a chefnogi datblygiad diwydiannau'r dyfodol. 

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Llywodraeth newydd Cymru yn cymeradwyo ei phrosiect ynni gwynt ar y môr cyntaf | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.