Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2027-2028, sef cyllideb lawn gyntaf y llywodraeth newydd a chyllideb amlflwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Mae'n nodi cynlluniau adnoddau hyd at 2028-2029 a chynlluniau cyfalaf hyd at 2029-2030.
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cynnwys:
- £500 miliwn ychwanegol i'r GIG yn 2027-2028, gan godi i £700 miliwn ychwanegol yn 2028-2029, i helpu i dorri rhestrau aros a rhoi'r gwasanaeth iechyd ar sail fwy cadarn, ynghyd â £171 miliwn arall o gyfalaf ar gyfer prosiectau fel hybiau gofal newydd i gyflymu llawdriniaethau wedi'u cynllunio.
- Cyfanswm o £2 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer gwasanaethau iechyd dros y tair blynedd nesaf.
- £176 miliwn ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2027-2028, sy'n gynnydd cyfartalog o 2.8% gyda phob awdurdod lleol yn cael o leiaf 2.5%.
- £103.5 miliwn ar gyfer prydau ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys £10 miliwn ychwanegol i ehangu prydau am ddim mewn ysgolion uwchradd.
- £75 miliwn yn 2027-2028 ac yn codi i £186 miliwn yn 2028-2029 i barhau â chyflwyno'r cynnig gofal plant i bob plentyn, a fydd yn y pen draw yn darparu 20 awr o ofal plant yr wythnos wedi'i ariannu i bob plentyn rhwng naw mis oed a phedair blwydd oed am 48 wythnos y flwyddyn.
- £1.5 biliwn o gyfalaf dros dair blynedd tuag at y targed o 20,000 o gartrefi.
- £30 miliwn o gyfalaf ar gyfer rhaglenni datgarboneiddio, yr economi gylchol ac adfer natur, a £30 miliwn ar gyfer rhaglen genedlaethol gwefru cerbydau trydan i annog buddsoddiad yn y sector.
- £25 miliwn ar gyfer cronfa newydd i helpu gwasanaethau cyhoeddus i weithio'n well.
- £9.2 miliwn dros ddwy flynedd i dreialu Cynnal, er mwyn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd cymwys ar incwm is sydd â phlant ifanc.
- Mwy na £20 miliwn yn 2027-2028, gan godi i £30 miliwn yn 2028-2029 i'r asiantaeth newydd, Asiantaeth Arloesi a Datblygu Cymru, i helpu busnesau i dyfu a chreu swyddi sy'n talu'n dda.
- £45.7 miliwn o gyfalaf dros dair blynedd ar gyfer diogelwch tomenni glo, yn ogystal â chyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y DU.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyllideb Llywodraeth Cymru yn "gosod cyfeiriad newydd", meddai'r Gweinidog Cyllid | LLYW.CYMRU.