Newyddion

Llywodraeth Cymru yn anelu at ddarparu 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos

Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog, Rhun ap Iorwerth a Sioned Williams

Mae'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymweld â chanolfan blant integredig ym Merthyr Tudful, gan dynnu sylw at uchelgais Llywodraeth Cymru i ehangu gofal plant am ddim i blant ledled Cymru.

Cyfarfu Rhun ap Iorwerth a Sioned Williams â staff, plant a rhieni yng Nghanolfan Blant Integredig Cwm Golau ym Mhentrebach, ar eu hymweliad cyntaf fel arweinwyr Llywodraeth Cymru.

Dros dymor yn y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno 20 awr o ofal plant yr wythnos am ddim, am 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer pob plentyn rhwng 9 mis a 4 mlwydd oed.

Bydd y ddarpariaeth Gymraeg hefyd yn cael ei hehangu, gan roi cyfle teg i bob plentyn ddysgu a mwynhau'r Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y cynnig gofal plant mwyaf hael yn hanes datganoli | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.