Newyddion

Llywodraeth Cymru a Pride Cymru yn partneru ar gyfer digwyddiadau Balchder llawr gwlad

Brecon / Aberhonddu Pride

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Pride Cymru i weinyddu'r Gronfa Balchder Llawr Gwlad llwyddiannus ar gyfer 2025-2026, gan sicrhau bod cymunedau LHDTC+ mewn trefi a phentrefi ledled Cymru yn parhau i elwa ar ddathliadau lleol.

Daw'r cyhoeddiad ar ddiwedd mis Balchder, a welodd ddathliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol mis Mehefin.

Am y tair blynedd diwethaf, mae'r gronfa wedi helpu cymunedau i ddathlu digwyddiadau Balchder ar draws Cymru, gyda £38,250 ar gael yn y rownd ddiweddaraf o gyllid.

Roedd Balchder Aberhonddu yn un o nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Daeth y dathliad â channoedd o bobl o bob rhan o ganolbarth Cymru a thu hwnt at ei gilydd ar gyfer diwrnod o berfformiadau, stondinau cymunedol a gweithgareddau i'r teulu.

Dywedodd Cadeirydd Balchder Aberhonddu, Michael Price: "Mae digwyddiadau balchder fel Balchder Aberhonddu yn cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar gymunedau gwledig fel ein cymuned ni. Maent yn creu mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u dathlu, ac yn rhoi hwb i ysbryd cymunedol ar draws y rhanbarth. Gyda'r gefnogaeth ariannol hon, rydyn ni wedi gallu cyrraedd mwy o bobl a chreu ymdeimlad cryfach o berthyn."

Er mwyn gwella'r broses o ddarparu'r gronfa a'i gwneud yn fwy ymatebol i anghenion Balchder lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu partneru â Pride Cymru i weinyddu'r gronfa ar eu rhan.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Llywodraeth Cymru a Pride Cymru yn partneru ar gyfer digwyddiadau Balchder llawr gwlad | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.