Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi ysgrifennu llythyr agored at fusnesau bach a sefydliadau cynrychioliadol busnes ynghylch seiberddiogelwch.
Mae gweithgaredd seiber gelyniaethus yn y DU yn tyfu'n fwy dwys, yn fwy aml ac yn fwy soffistigedig. Yng ngoleuni digwyddiadau seiber diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu llythyr agored at gyrff masnach y diwydiant a sefydliadau cynrychioliadol busnes gyda chyngor i helpu i sicrhau bod busnesau bach yn cael eu hamddiffyn yn y ffordd orau rhag bygythiadau seiber.
Mae'r llythyr yn nodi dau gam allweddol y gall perchnogion busnesau bach ac entrepreneuriaid eu cymryd i wella eu cydnerthedd seiber:
- Defnyddiwch y Cyber Action Toolkit newydd, sef, datrysiad seiberddiogelwch personol am ddim gan arbenigwyr yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) sy'n nodi camau syml a chyraeddadwy ar gyfer busnesau bach.
- Mabwysiadwch Cyber Essentials, cynllun hynod o effeithiol y llywodraeth i amddiffyn rhag ymosodiadau seiber cyffredin. Mae'n cynnwys yswiriant seiber rhad ac am ddim, mynediad at linell gymorth mewn argyfwng 24/7 ac yn agor drysau i gontractau llywodraeth a gwell cyfleoedd busnes. Mae sefydliadau sydd â Cyber Essentials 92% yn llai tebygol o wneud hawliad ar eu hyswiriant seiber.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Llythyr Gweinidogol Llywodraeth y DU ar seiberddiogelwch at fusnesau bach - GOV.UK.
Os bydd busnesau'n wynebu digwyddiad, mae cymorth ar gael dydd a nos. Gellir rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu i Action Fraud.
Mae cefnogaeth hefyd ar gael yng Nghymru trwy:
- Mae gan Hyb Arloesedd Seiber atebion hyfforddi wedi'u teilwra sy'n diwallu eich anghenion seiber penodol ac yn cynnig cyfle i uwchsgilio eich tîm gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn seibergdiogelwch.
- Mae gan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru ystod o ganllawiau i'ch gwneud yn fwy seibergadarn.