Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd. Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2026.
Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r meini prawf cymhwysedd a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2025. Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi hyd at 31 Rhagfyr 2025 yn gymwys ar gyfer Gwobr 2026.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 24 Tachwedd 2025.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobr Llyfr y Flwyddyn - Llenyddiaeth Cymru,