Newyddion

Llunio cynlluniau ar gyfer cwmni ynni glân newydd, sy’n eiddo i Gymru, er budd Cymru

Adam Price MS Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar gynigion ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus newydd sy’n eiddo i bobl Cymru.

Mae ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn amlinellu cynigion ar gyfer un cwmni ynni cyhoeddus cenedlaethol. Byddai’r cwmni’n dod â sefydliadau ynni presennol ynghyd ac yn helpu i sicrhau bod mwy o’r manteision economaidd o adnoddau ynni Cymru yn llifo i bobl, cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gan Gymru rai o’r adnoddau ynni adnewyddadwy gorau yn Ewrop. Byddai’r cwmni arfaethedig yn anelu at gynyddu perchnogaeth Gymreig o brosiectau ynni a helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwell defnydd o ynni a gynhyrchir yng Nghymru.

Ni fyddai’r cwmni yn disodli cyflenwyr ynni presennol nac yn gosod prisiau ynni cartrefi yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gallai cynyddu perchnogaeth Gymreig o brosiectau ynni helpu i leihau costau ynni dros amser a sicrhau bod mwy o arian yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 30 Tachwedd 2026.

Gall pobl gymryd rhan ar-lein yn: Creu cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru | LLYW.CYMRU 

I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Llunio cynlluniau ar gyfer cwmni ynni glân newydd, sy’n eiddo i Gymru, er budd Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.