
Mae RCS yn fenter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
Mae RCS yn darparu cymorth, hyfforddiant a therapïau i helpu pobl a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant ar gyfer eu gwaith.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig mynediad cyflym i hyd at chwe sesiwn (am ddim) o wasanaethau ffisiotherapi, therapi seicolegol a therapi galwedigaethol wedi'u teilwra, a gynlluniwyd i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant am ddim i fusnesau yn y sector preifat a’r trydydd sector.
Meini Prawf Cymhwysedd:
- Yn byw yng Ngogledd Cymru, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot;
- Bod â hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig; a
- Yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Eich Llesiant Yn Y Gwaith - RCS Wales