Ynghyd â Llywodraethau eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar reolau newydd sydd â’r nod o wneud cynhyrchion fepio yn llai deniadol i blant a phobl ifanc.
Byddai’r cynlluniau yr ymgynghorir arnynt yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunyddiau pecynnu cynhyrchion fepio a nicotin fod yn wyn ac yn blaen, gan felly wahardd dulliau brandio a delweddau lliwgar, a chyfyngu ar enwau’r blasau i dermau unigol a chyffredin fel ‘Apple’ - gan roi diwedd felly ar enwau fel ‘Cosmic Fog’ neu ‘Cotton Candy’.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyfyngu ar y ffyrdd y caiff siopau arddangos cynhyrchion fepio yn agored. Byddai rhaid cadw cynhyrchion fepio a nicotin y tu ôl i’r cownter gwerthu, yn yr un modd â chynhyrchion tybaco ar hyn o bryd.
Byddai rhestrau prisiau yn cael eu caniatáu o hyd a gallant gynnwys gwybodaeth am gryfder y nicotin a chynhwysion i helpu defnyddwyr sy’n oedolion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Nod y cynigion yw lleihau fepio ymhlith pobl ifanc ond parhau i alluogi oedolion i ddefnyddio fêps os ydynt yn dymuno gwneud hynny er mwyn rhoi’r gorau i smygu.
Mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgynghori ar y cynigion o dan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026.
Mae’r ymgynghoriad ar agor i’r cyhoedd, busnesau, manwerthwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn iechyd y cyhoedd. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Hydref 2026.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Lleisiwch eich barn ar gyfyngiadau llymach i wneud fepio yn llai deniadol i blant a phobl ifanc | LLYW.CYMRU.