
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi cael ei lansio'n swyddogol gan ddod â mewnfuddsoddiad sylweddol i Dde Orllewin Cymru a miloedd o swyddi newydd gam yn agosach.
Mae'r porthladd rhydd yn cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac mae'n rhychwantu datblygiadau ynni glân, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a'r diwydiant dur ledled De Orllewin Cymru.
O fewn ardal y porthladd rhydd mae busnesau yn cael cynnig cymorth treth sylweddol ac eithriadau rhag tollau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i annog buddsoddiad a thwf. Mae disgwyl i'r Porthladd Rhydd Celtaidd ddenu £8.4 biliwn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus, creu 11,500 o swyddi newydd ac ychwanegu £8.1 biliwn o werth economaidd (GVA) i'r economi leol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Lansio’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn allweddol ar gyfer Twf Economaidd a Theithiau Ynni Glân - Porthladd Rhydd Celtaidd
Dysgwch am y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru | LLYW.CYMRU
P'un ai ydych chi'n cynnig gwasanaethau, trwyddedau neu gynhyrchion, mae gan allforio y potensial i drawsnewid bron pob agwedd ar eich busnes. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Pam allforio? | Busnes Cymru - Allforio