Newyddion

Lansio ymgyrch sgiliau genedlaethol i ddatgloi cyfleoedd i bobl ifanc ym maes technoleg

robotic engineering class - AI

Bydd disgyblion ledled y wlad yn cael y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i gael swyddi yn y dyfodol a fydd wedi’u gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, diolch i raglen sgiliau newydd a lansiwyd gan Brif Weinidog y DU (dydd Llun 9 Mehefin).

Wrth wraidd yr ymgyrch sgiliau, ac fel rhan o'r Strategaeth Ddiwydiannol fodern sydd ar ddod, mae rhaglen newydd "TechFirst" llywodraeth y DU, gwerth £187 miliwn, i gyflwyno sgiliau digidol a dysgu drwy ddeallusrwydd artiffisial i ystafelloedd dosbarth a chymunedau a hyfforddi pobl o bob oed a chefndir ar gyfer gyrfaoedd technoleg y dyfodol.

Daw hyn wrth i ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) ddangos, erbyn 2035, y bydd tua 10 miliwn o weithwyr mewn rolau lle bydd deallusrwydd artiffisial yn rhan o'u rôl neu eu cyfrifoldebau mewn rhyw ffurf, gyda 3.9 miliwn arall mewn rolau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â deallusrwydd artiffisial.

Bydd elfen flaenllaw y rhaglen hon, "TechYouth" – gyda chefnogaeth £24 miliwn o gyllid gan y llywodraeth – yn rhoi cyfle i 1 miliwn o fyfyrwyr dros dair blynedd ym mhob ysgol uwchradd yn y DU ddysgu am dechnoleg a chael mynediad at hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd gyrfa newydd.

Bydd platfform ar-lein hefyd i ysbrydoli ac addysgu myfyrwyr am botensial gyrfaoedd ym maes cyfrifiadura a thechnoleg, sydd â mynediad i'r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn y DU gyda 100,000 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru eisoes.

Ym mhob un o ranbarthau a gwledydd y DU, bydd partner cyflenwi lleol yn cael ei ddewis gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg i redeg y rhaglen a chyflwyno gweithgareddau i ysgolion a cholegau mewn ardaloedd lleol.

Mae'r sector deallusrwydd artiffisial yn unig yn werth £72.3 biliwn a rhagwelir y bydd yn fwy nag £800 biliwn erbyn 2035. Mae'n tyfu 30 gwaith yn gyflymach na gweddill yr economi, gan gyflogi dros 64,000 o bobl ar draws dros 3,700 o gwmnïau.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: PM launches national skills drive to unlock opportunities for young people in tech - GOV.UK.

Recriwtio a Hyfforddi: Cymorth a chanllawiau i adnabod bylchau sgiliau a datblygiad ar gyfer eich busnes Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.