Newyddion

Lansio ymgynghoriad i roi mwy o hyblygrwydd i lety gwyliau

Barmouth

Mae cynigion newydd wedi cael eu hawgrymu i addasu'r ffordd y mae rheolau treth ar gyfer perchnogion llety gwyliau hunanddarpar yn cael eu cymhwyso.

Ers mis Ebrill 2023, rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael am 252 diwrnod a'u gosod am 182 diwrnod bob blwyddyn i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor. Cafodd y rheolau eu cyflwyno i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at eu cymuned leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddau newid allweddol i'r ffordd y mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso, er mwyn rhoi sefydlogrwydd ychwanegol i'r sector:

  • Caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio 182 diwrnod ar gyfartaledd dros sawl blwyddyn. Mae hyn yn golygu y byddai'r rhai sydd wedi colli'r cyfle, o drwch blewyn, i osod eu llety gwyliau am 182 diwrnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn aros ar ardrethi annomestig os oeddent wedi ei gyflawni ar gyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd flaenorol.
  • Caniatáu hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim a roddir i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai cynghorau ystyried rhoi mwy o amser i fusnesau addasu, megis cyfnod gras o 12 mis cyn y gallent orfod talu cyfraddau treth gyngor uwch pan fyddant yn symud o ddosbarthiad annomestig i ddosbarthiad domestig.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 20 Tachwedd 2025: Cynigion i fireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.