Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi lansio gwelliannau i’r gwasanaeth cofrestru sy’n ei gwneud hi’n haws cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Gall unrhyw un ddefnyddio offeryn gwirio ar-lein CThEF, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar GOV.UK, i ddysgu a oes angen cyflwyno Ffurflen Dreth a chael gwybod am unrhyw gamau y bydd angen i’w cymryd.
31 Ionawr 2027 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r sawl sydd ag incwm i’w ddatgan gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn iddynt ddechrau llenwi eu Ffurflen Dreth, os nad ydynt wedi cofrestru eisoes.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Lansio gwelliannau i’r gwasanaeth cofrestru ar gyfer Hunanasesiad - GOV.UK.