
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio adolygiad llawn o absenoldeb a thâl rhiant.
Bydd yr Adolygiad yn edrych ar bob math o absenoldeb – gan gynnwys mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir, ac mae’n rhan o’u hymgyrch i Wneud i Waith Dalu.
Croesewir ymatebion gan wahanol sefydliadau a chyrff, gan gynnwys grwpiau eiriolaeth, academyddion, busnesau a grwpiau o gynrychiolwyr busnes, undebau llafur, yn ogystal â rhieni.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni hyn: Parental leave and pay review: terms of reference - GOV.UK a Parental leave and pay review: call for evidence - GOV.UK.
Daw’r alwad hon am dystiolaeth i ben am 11:59pm ar 25 Awst 2025.