
Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd am yrfaoedd o fewn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, a herio canfyddiadau o yrfaoedd yn y maes wedi’i lansio.
Mae’r rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog. Mae’n cefnogi busnesau bwyd a diod gyda ffocws ar ddiwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru i sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr ar gyfer eu busnes.
Gan weithio ar draws pob sector o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru, mae’n annog gweithwyr i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau â’u cyfoedion tra hefyd yn cynyddu hyder a hyblygrwydd yn y gweithle er mwyn gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hefyd yn ceisio paratoi gweithwyr i addasu i newidiadau a chyfleoedd ym maes cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd gan gynnwys heriau technegol, busnes ac amgylcheddol.
Fel rhan o’r ymgyrch, mae Hysbysfwrdd Swyddi ar-lein newydd yn fyw gyda nifer o swyddi gwag ar gael ar draws y sector.
Mae Hysbysfwrdd Swyddi Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar gael ar: swyddibwyddiod.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ewch i Hafan - Food and Drink Skills Wales