Newyddion

Lansiad y Fframwaith Pontio Teg

Family looking at wind turbines

Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn amlinellu sut y bydd Cymru'n cyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n rhannu'r manteision, y cyfleoedd a'r costau yn deg ar draws cymdeithas.

Mae mwy i ddatgarboneiddio na lleihau allyriadau yn unig - dylai hefyd helpu i greu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus.

Beth yw pwrpas y Fframwaith?

  • Ymwreiddio tegwch ym mhob gweithgaredd datgarboneiddio.
  • Sicrhau bod cynlluniau a pholisïau Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Cefnogi cydweithredu ar draws y llywodraeth, busnesau, cymunedau a'r sector cyhoeddus ehangach er mwyn cynyddu manteision a lleihau anghydraddoldebau.

Mae'r Fframwaith wedi'i lunio ar gyfer pawb sy'n ymwneud â gweithredu ar newid hinsawdd yng Nghymru, gan gynnwys llywodraeth, busnesau, cyrff cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector, a grwpiau cymunedol. Mae wedi'i seilio ar gyfres o bileri sy'n esbonio sut y dylen ni weithredu, ac egwyddorion arweiniol sy'n disgrifio beth y dylen ni geisio ei gyflawni. Mae pob adran yn cynnwys cwestiynau trafod defnyddiol i gefnogi cynllunio a myfyrio.

Os hoffwch ddysgu mwy, darllenwch y Fframwaith a / neu cysylltwch â ni - byddem yn hapus i drafod a chynnig cymorth. Cysylltwch â ni drwy'r blwch negeseuon e-bost Datgarboneiddio.

Cofrestrwch eich busnes gyda'r Addewid Twf Gwyrdd i ymuno â chymuned sy’n tyfu o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i drosglwyddo i ddyfodol carbon isel.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.