Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wedi hyrwyddo cryfder ac arloesedd gweithgynhyrchu Cymru ac wedi pwysleisio unwaith eto gefnogaeth ddiwyro Llywodraeth Cymru i'r sector hanfodol hwn ar ymweliad ag un o'r busnesau preifat mwyaf yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Mae NIDEC Drives, a elwid gynt yn Control Techniques, wedi bod yn gonglfaen o economi Canolbarth Cymru ers dros bum degawd. Sefydlwyd y busnes, sy'n dylunio a chynhyrchu technoleg rheoli moduron trydan uwch, yn 1973 fel busnes bach ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn llwyddiant rhyngwladol. Gyda throsiant o tua £125 miliwn, mae'r cwmni'n cyfrannu'n sylweddol at economi Canolbarth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau fel NIDEC Drives i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl weithgynhyrchu sydd gyda'r gorau yn y byd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cwmni dros nifer o flynyddoedd, ac yn 2021 bu cyllid Llywodraeth Cymru o gymorth i NIDEC Drives drosglwyddo gwaith cynhyrchu o Tsieina i'w ganolfan yn y Drenewydd. Mae eleni hefyd yn nodi 30 mlynedd ers i'r cwmni feddiannu ei safle yn Y Gro, lle mae ei ganolfan ymchwil a datblygu fyd-eang.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hyrwyddo'r sector gweithgynhyrchu ar ymweliad â chyflogwr mawr yng nghanolbarth Cymru | LLYW.CYMRU.
Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yma gallwch ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Cymorth ac arian | Busnes Cymru.