
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi lansio hyfforddiant Rheoli Llifogydd newydd ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gydag 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chyda'r argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod ac yn deall eu perygl o lifogydd.
Mae tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwydnwch Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i ddylunio a chyflwyno cwrs ar-lein i landlordiaid ac asiantiaid yng Nghymru, i'w helpu i ddeall sut i reoli eiddo sydd mewn perygl o lifogydd.
Y gobaith yw y bydd yr hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd a lliniaru'r effaith ar gartrefi, bywoliaeth a chymunedau pobl.
Mae'r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rhad ac am ddim ac mae bellach ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru.
Trwy gwblhau'r hyfforddiant, bydd landlordiaid ac asiantiaid yn casglu 10 pwynt DPP fydd yn cyfrif tuag at gais adnewyddu trwydded Rhentu Doeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhentu Doeth Cymru yn ffurfio partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno cwrs rheoli llifogydd hanfodol.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad chynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.