
Ydych chi'n fusnes bach neu ganolig sy'n gwerthu ar-lein trwy eich siop eich hun, neu drwy farchnadoedd ar-lein, fel Ebay, Amazon neu Etsy?
Os felly, oeddech chi'n gwybod eich bod bellach yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddiogelwch y cynnyrch rydych chi'n eu gwerthu?
Mae'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) wedi cael ei gomisiynu gan y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) i ymgymryd â chynllun peilot cymorth busnes ymhlith busnesau bach a chanolig - gan gynnwys unig fasnachwyr - sy'n gwerthu eu cynnyrch ar-lein yn y DU.
I gael gwybod mwy am Raglen Cymorth Busnes y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch i Werthwyr Ar-lein, dewiswch y ddolen ganlynol: Diogelwch Cynnyrch i Werthwyr Ar-lein