Newyddion

Hyfforddiant am Ddim yn y Gweithle – Iechyd Meddwl i Fusnesau ym Mhowys

Mental health

Mae Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn cynnig hyfforddiant Iechyd Meddwl am ddim yn y gweithle i staff unrhyw sefydliad sydd wedi'i leoli ym Mhowys, gyda llai na 250 o weithwyr a throsiant o lai na £50 miliwn.

Manylion isod:

  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – 10 am i 1pm, 10 Medi 2025
  • Rheoli Straen – 10 am i 1pm, 6 Hydref 2025
  • Cefnogi Lles Staff (ar gyfer rheolwyr) – 10am i 1pm, 8 Hydref 2025
  • Gwydnwch yn y Gweithle – 10am i 1pm, 29 Hydref 2025
  • Lles yn y Gweithle – 10am i 1pm, 10 Tachwedd 2025
  • Pendantrwydd – 10am i 1pm, 20 Tachwedd 2025

Cynhelir yr hyfforddiant ar-lein trwy Zoom.

Mae'r hyfforddiant hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol Business Support – In-Work Support Service in Powys neu i archebu cwrs hyfforddi, cysylltwch â Jo yn jo@mnpmind.org.uk 

Ydych chi'n trafod iechyd meddwl yn y gwaith? Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i dalu sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall dros amser heb ei reoli achosi, neu waethygu problemau iechyd meddwl. Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.