Newyddion

Hyfforddi dynion i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru

James Minas

Mae ugain o ddynion ledled Cymru yn helpu i greu cymunedau mwy diogel i fenywod a merched ar ôl cwblhau hyfforddiant arbenigol drwy ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru.

Bellach, maen nhw'n defnyddio'r hyn a ddysgwyd i gefnogi dynion a bechgyn ifanc a hyrwyddo parch, hunan-fyfyrio a chynnal perthynas iach.

Nod Iawn yw atal trais yn erbyn menywod a merched trwy annog dynion i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac ymddygiadau iach, ac i gael sgyrsiau gyda'u cyfoedion.

Mewn partneriaeth â White Ribbon, hyfforddodd Llywodraeth Cymru ugain o ddynion sydd eisoes yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc, gan eu helpu i ddechrau sgyrsiau am ymddygiad niweidiol, cynnal perthyas iach a gwrywdod cadarnhaol.

Defnyddiodd un llysgennad, y cerddor o Gaerdydd, James Minas, yr hyfforddiant i sefydlu Bros B4 Lows - grŵp cefnogi dynion yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r grŵp yn darparu lle diogel i drafod iechyd meddwl, perthynas a heriau bywyd.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Hyfforddi dynion i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru | LLYW.CYMRU.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fusnes i bawb. Gall busnesau ledled Cymru chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o’i atal yn ogystal â chefnogi a diogelu'r rhai yr effeithir arnynt, drwy greu gweithle lle nad oes unrhyw oddefgarwch o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.