
Bydd grantiau gwerth £1.75 miliwn yn helpu i sicrhau bod busnesau twristiaeth a lletygarwch bach ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd.
Yn dilyn llwyddiant y gronfa gychwynnol i liniaru effeithiau'r tywydd a ganiataodd i'r sector atyniadau twristiaeth fuddsoddi mewn mesurau diogelu rhag tywydd gwael, bydd ail gam newydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch bach i liniaru effaith pob math o dywydd a gwella'r profiad i ymwelwyr.
Mae grantiau o rhwng £5,000 a £20,000 fesul prosiect ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau diogelu rhag tywydd gwael, fel ardaloedd awyr agored newydd o dan do, podiau bwyta, neu arwynebau a draenio.
Mae'r cynllun yn agored i fentrau bach gyda 9 i 49 o weithwyr llawn-amser sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf blwyddyn, gan gynnwys:
- Darparwyr llety
- Sefydliadau bwyd a diod
- Gweithgareddau hamdden ac awyr agored
Mae Ogofâu Arddangos Dan-yr-Ogof, un o'r atyniadau i dwristiaid a dderbyniodd gyllid yn y rownd flaenorol, wedi gosod cysgodfan i’w trên tir ynghyd â tho y tu allan i'w swyddfa docynnau i gadw ymwelwyr yn sych mewn ardaloedd aros allweddol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cyllid | Eich cefnogi | Croeso Cymru Diwydiant ac Hwb ychwanegol gwerth £1.75 miliwn i helpu i groesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd | LLYW.CYMRU.
Mae'r cynllun yn agor ar 29 Medi 2025 ac yn cau ar 27 Hydref 2025 am 1pm.