
Mae disgwyl i bobl yng Nghymru elwa o fuddsoddiad o £10 miliwn gyda'r nod o wella cymorth gwaith, iechyd a sgiliau lleol fel rhan o fenter Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anweithgarwch a Chael Prydain i Weithio.
- Mae’r cynllun arloesol cyntaf yng Nghymru yn lansio i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, gyda chymorth newydd wedi'i deilwra i'w gyflwyno gan gynnwys mentora un-i-un, cwnsela, gwasanaethau lles, a rheoli cyflyrau am faterion iechyd.
- Mae’n dod fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i Gael Prydain i Weithio eto i ddatgloi twf a chyflenwi Cynllun ar gyfer Newid.
Bydd y rhaglen arloesol gyntaf yng Nghymru, a lansiwyd yn Sir Ddinbych gan Weinidog Cyflogaeth y DU, Alison McGovern a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn darparu am y tro cyntaf ymyriadau pwrpasol wedi'u targedu i anghenion lleol, yn hytrach na'r dull presennol "un maint i bawb".
Mae hyn yn cynnwys help gyda llunio CVs a chwiliad gwaith, mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a mynediad at wasanaethau rheoli cyflyrau i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.
Mae ardaloedd y cynllun arloesol yn lleoedd penodol a ddewiswyd i dreialu dulliau newydd ac arloesol o gymorth cyflogaeth – mae'r ardaloedd hyn yn cael cyllid ac adnoddau wedi'u targedu i gyflwyno strategaethau newydd i leihau diweithdra, mynd i'r afael ag anweithgarwch a gwella cyfleoedd gwaith.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Hwb o £10 miliwn i gymorth cyflogaeth yng Nghymru i Gael Prydain i Weithio eto | LLYW.CYMRU