Newyddion

Hwb gwerth £30.9 miliwn i drefi ledled Cymru

The Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £30.9 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi ledled Cymru.

Mae'r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol ledled y wlad, o drefi arfordirol i gymunedau yn y cymoedd, gyda phrosiectau sy'n cwmpasu diwydiannau creadigol, hamdden, trafnidiaeth a threftadaeth.

Ers ei lansio yn 2020, mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dros £484 miliwn mewn cyllid grant a benthyciadau i gefnogi gwaith adfywio ledled Cymru – ac mae'r cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2025/26 i £56.3 miliwn trawiadol.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Hwb gwerth £30.9 miliwn i drefi ledled Cymru | LLYW.CYMRU ac Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi: Y Rhaglen Trawsnewid Trefi | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.