Newyddion

Hwb gwerth £2 miliwn i amddiffyn busnesau rhag y tywydd

Brecon Mountain Railway rain shelter

Mae £2 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch Cymru i roi mesurau ar waith i wrthsefyll tywydd garw.

Derbyniodd Cronfa Addasu i'r Tywydd Blwyddyn Croeso bron i 400 o geisiadau gan fusnesau a oedd yn ceisio grantiau rhwng £5,000 a £20,000. Mae'r gyllideb wreiddiol o £1.75 miliwn wedi cael ei chynyddu i fodloni'r galw enfawr.

Mae'r cynllun yn cefnogi busnesau micro, bach a chanolig sy'n cyflogi rhwng 1 a 250 o bobl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grantiau sy'n talu hyd at 75% o gostau'r prosiect.

Canfu ymchwil Croeso Cymru yn 2024 fod 55% o fusnesau twristiaeth yn dweud mai tywydd gwael oedd y prif reswm dros ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn helpu busnesau i estyn eu tymhorau gweithredu a chreu profiadau gwell i ymwelwyr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hwb gwerth £2 miliwn i amddiffyn busnesau rhag y tywydd | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.