
Gall twristiaid a cherddwyr sy'n crwydro rhai o fannau prydferth a pharciau cenedlaethol enwocaf y DU bellach elwa yn sgil hwb enfawr yn y signal ffonau symudol, gan eu helpu i gynllunio eu teithiau a chael diweddariadau tywydd byw ar gyfer anturiaethau mwy diogel yn yr awyr agored.
Mae Llywodraeth y DU wedi uwchraddio dros 50 o fastiau symudol ledled Cymru, yr Alban a Lloegr.
Mae'r mastiau, a oedd yn cael eu defnyddio i ddechrau i gysylltu cwsmeriaid EE a'r rhai sy'n galw 999 yn unig, bellach wedi'u huwchraddio i roi signal gan yr holl weithredwyr rhwydwaith symudol. Bydd uwchraddio'r mastiau presennol yn cyfyngu ar yr effaith weledol a naturiol ar yr amgylchedd, gan achosi llai o aflonyddwch i'r ardaloedd cyfagos.
Bydd yr uwchraddiadau o fudd i filoedd o drigolion lleol a llawer mwy sy'n ymweld â'r ardaloedd cyfagos, gan ddod â rhwydweithiau 4G cyflym a dibynadwy i gymunedau diarffordd llle’r arferai’r signal fod yn wael.
Yng Nghymru y bydd yr hwb mwyaf o ran cysylltedd gyda rhannau diarffordd o Fynyddoedd y Berwyn, Bannau Brycheiniog, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy bellach yn cael eu cwmpasu gan bob un o'r pedwar rhwydwaith yn y DU.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Huge mobile signal boost across UK countryside now covering area larger than 66,000 football pitches - GOV.UK