Os oes gennych weithwyr sydd â phlant rhwng 16 ac 19 oed, mae angen iddynt wybod y gallent golli hyd at £1,406 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant oni bai eu bod yn cadarnhau statws addysg neu hyfforddiant eu plant yn eu harddegau.
Mae CThEF yn ysgrifennu at rieni i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt gadarnhau a yw eu plant yn eu harddegau yn aros mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser, cyn y dyddiad cau sef 31 Awst 2026. Os nad yw CThEF yn cael eu hysbysu yna bydd eu Budd-dal Plant yn cael ei atal.
Gallwch helpu eich gweithwyr i gael y taliadau y mae ganddynt hawl iddynt drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF.
Gallant gael mynediad i'r gwasanaeth digidol yn ap CThEF neu ar GOV.UK a chwilio am 'extend Child Benefit'.
Os oes gan unrhyw un o'ch gweithwyr neu eu partner incwm unigol o fwy na £60,000 ac mae angen iddynt ymestyn eu Budd-dal Plant, byddant yn dal i fod yn atebol i dalu'r Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel, y gellir ei dalu nawr drwy eu cod treth TWE.
Anogwch eich gweithwyr i ddefnyddio'r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant ar-lein i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei dderbyn, a beth allai’r tâl fod.