Newyddion

Help i'ch busnes technoleg nodi a rheoli risgiau diogelwch allweddol

Digital checklist

Mae Adolygiadau Diogelwch Arloesi Diogel yn cynnig canllawiau arbenigol, wedi'u teilwra i fusnesau technoleg arloesol yn y DU sydd yng nghyfnod cynnar eu cyfnod i’w helpu i amddiffyn eu syniadau, eu technolegau, eu mantais gystadleuol a'u henw da.

Yn cael ei gyflwyno gan adolygwyr diogelwch cymeradwy, mae'r gwasanaeth yn helpu busnesau i nodi a rheoli risgiau diogelwch allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â bygythiadau gan y wladwriaeth ac yn eu helpu i integreiddio diogelwch amddiffynnol i'w strategaethau busnes ehangach.

Mae Adolygiad Diogelwch yn darparu asesiad lefel uchel o sefyllfa ddiogelwch sefydliad, sy'n cwmpasu:

  • Llywodraethiant Diogelwch Amddiffynnol
  • Diwylliant Diogelwch
  • Rheoli Risg
  • Seiberddiogelwch
  • Cadwyni Cyflenwi a Phartneriaethau Diogel
  • Rheoli Digwyddiadau

Yn elfen allweddol o'r ymgyrch Arloesi Diogel, mae'r cynllun Adolygu Diogelwch yn cael ei ariannu trwy fenter ar y cyd rhwng yr Adran Busnes a Masnach (DBT), yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), yr Awdurdod Diogelwch Diogelu Cenedlaethol (NPSA), a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae'r cynllun yn talu mwyafrif cost pob Adolygiad drwy grant o £2,500, gydag ychwanegiad o £500 gan bob busnes.

Bydd busnesau sy'n derbyn Adolygiad Diogelwch hefyd yn derbyn taleb gwerth £300 tuag at ardystiad Cyber Essentials. Mae Cyber Essentials yn cael ei argymell gan yr NCSC fel y llinell sylfaen leiaf ar gyfer seiberddiogelwch yn y DU.

Mae Innovate UK, asiantaeth arloesi'r DU, sy’n gweinyddu'r cynllun ledled y DU, sydd ar gael i 500 o fusnesau.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Secure Innovation Security Reviews - Innovate UK Business Connect.

I dderbyn mwy o gymorth ar seiberddiogelwch, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'r rhaglen Cyber Essentials, cynllun ardystio a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy'n helpu i gadw data eich sefydliad a'ch cwsmeriaid yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber.

Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn lleihau'r risg o ymosodiadau seiber ar gael ar Cyngor ac arweiniad ar seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.