Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi cyhoeddi rhybudd ar ôl i fwy na 4,800 o sgamiau Hunanasesu gael eu hadrodd ers mis Chwefror 2025.
Mae sgamwyr yn defnyddio tactegau perswadiol a bygythiol i dargedu pobl pan fyddant yn fwy tebygol o dderbyn gohebiaeth gan CThEF. Maen nhw’n anfon ceisiadau treth ffug neu'n ceisio rhoi pwysau ar bobl i drosglwyddo gwybodaeth bersonol.
Mae CThEF yn atgoffa cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus wrth i'r dyddiad cau Hunanasesu agosáu ac i wirio a yw'r e-bost, y neges SMS neu'r alwad ffôn sy'n honni ei bod yn dod o CThEF yn ddilys ar GOV.UK.
Y dyddiad cau i gyflwyno ffurflenni treth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw 31 Ionawr 2026. Gall cwsmeriaid gyflwyno ar-lein ar GOV.UK.
Ni wnaiff CThEF:
- adael negeseuon llais yn bygwth camau cyfreithiol neu arestio
- anfon neges destun neu e-bost sy’n gofyn am wybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol
- cysylltu â chwsmeriaid drwy e-bost, neges destun neu’r ffôn er mwyn eu hysbysu am ad-daliad neu i ofyn iddyn nhw hawlio un
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: 4,800 Self Assessment scams reported - GOV.UK.