
Yn y DU mae yna ystod eang o wahanol grefyddau y gallai fod angen i gyflogwyr a gweithwyr gael rhywfaint o ddealltwriaeth ohonynt a sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i'w gilydd.
Mae Diwali, a elwir hefyd yn Deepawali, yn ŵyl bum diwrnod o hyd sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid. Mae'n digwydd bob hydref rhwng mis Hydref a mis Tachwedd, gyda'r dyddiad yn newid bob blwyddyn. Eleni mae'n dechrau ar 20 Hydref 2025.
Mae gan lawer o weithleoedd weithwyr o wahanol gefndiroedd crefyddol ac anghrefyddol.
Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys:
- Guru Nanak (Sikhiaid)
- Y Grawys (Cristnogion)
- Pesach (Iddewon)
- Vesak (Bwdhyddion)
- Ramadan (Mwslimiaid)
Gall annog mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cefndiroedd hyn fod yn werthfawr, yn enwedig o ran adeiladu tîm. Gall hefyd helpu i leihau'r siawns o gamddealltwriaeth allai arwain at gwynion neu gamau disgyblu.
I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, dewiswch y dolenni canlynol: