
Yn y DU mae ystod eang o grefyddau gwahanol y gall fod angen i gyflogwyr a gweithwyr eu deall yn ogystal â sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i’w gilydd.
Mae’n un o fisoedd mwyaf sanctaidd y calendr Islamaidd, Ramadan, yn cael ei nodi gan Fwslimiaid ledled y byd fel mis o ymprydio, gweddi, myfyrdod ysbrydol a chymuned.
Mae Mwslimiaid yn dilyn calendr lleuadol a gall Ramadan ddechrau ddydd Gwener 28 Chwefror 2025 neu ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025, a bydd yn para am 29 neu 30 diwrnod yn dibynnu ar yr adeg y gwelir lleuad gilgant.
Mae gan lawer o weithleoedd weithwyr o gefndiroedd crefyddol a di-grefydd gwahanol.
Dyma rai enghreifftiau:
- Diwali (Hindŵaeth)
- Guru Nanak (Siciaeth)
- Y Grawys (Cristnogaeth)
- Pesach/y Pasg (Iddewiaeth)
- Vesak (Bwdhaeth)
Gall annog mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cefndiroedd hyn dalu ar ei ganfed, yn enwedig wrth feithrin tîm. Gall hefyd helpu i leihau’r gamddealltwriaeth allai godi ac arwain at gwynion neu gamau disgyblu.
I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, ewch i wefan: