Newyddion

Gwyliau banc y DU 2025 ac 2026

Coffee shop worker wearing a Christmas hat

Mae penderfynu a oes yn rhaid i weithiwr weithio ar wyliau banc yn fater i'w gyflogwr. Gallai ddibynnu ar y diwydiant maen nhw'n gweithio ynddo. Er enghraifft, gallai bwytai a gwestai fod yn fwy tebygol o fod ar agor ar wyliau banc.

Gallai gŵyl banc ddisgyn ar ddiwrnod nad yw gweithiwr fel arfer yn gweithio.

Dylai cyflogwyr:

  • ddweud wrth weithwyr beth yw rheolau'r sefydliad ar gyfer gwyliau banc – yn enwedig os ydyn nhw'n newydd, neu os ydyn nhw’n newid o weithio’n llawn amser i weithio’n rhan-amser neu weithio shifftiau
  • trafod yn rheolaidd gyda gweithwyr sut y gallai cyfnodau pan fydd y busnes ar gau neu’n brysur effeithio ar y gwyliau maen nhw’n bwriadu eu cymryd

Gwyliau banc sydd ar ddod yng Nghymru a Lloegr.

2025

DyddiadDiwrnod y wythnosGŵyl y banc
25 RhagfyrDydd Iau Dydd Nadolig 
26 RhagfyrDydd GwenerDydd San Steffan

2026

DyddiadDiwrnod y wythnos   Gŵyl y banc
1 IonawrDydd Iau Dydd Calan
3 EbrillDydd GwenerGwener y Groglith
6 EbrillDydd LlunLlun y Pasg
4 MaiDydd LlunGŵyl banc dechrau Mai
25 MaiDydd LlunGŵyl banc y gwanwyn
31 AwstDydd LlunGŵyl banc yr haf
25 RhagfyrDydd GwenerDydd Nadolig
28 RhagfyrDydd Llun Dydd San Steffan (Diwrnod amgen)

Os yw gŵyl banc yn cwympo ar benwythnos, bydd dydd o'r wythnos yn dod yn ŵyl banc 'amgen' yn ei le, fel arfer y dydd Llun canlynol.

Mater i'ch cyflogwr yw penderfynu a oes rhaid i chi weithio ar wyliau banc ai peidio.

Nid oes yn rhaid i'ch cyflogwr roi gwyliau â thâl i chi ar wyliau banc neu gyhoeddus.

Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn rhoi gwyliau banc i chi a'ch talu’n ychwanegol i wyliau blynyddol. Bydd hyn yn cael ei amlinellu yn eich contract. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Working on bank holidays - Cyngor ar Bopeth.

Efallai bydd gwyliau banc yn effeithio ar sut a phryd caiff eich budd-daliadau eu talu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.