Newyddion

Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter

Young farmer

Mae Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflawniad rhagorol gan fusnesau'r DU yn y categorïau canlynol:

  • arloesedd
  • masnach ryngwladol
  • datblygu cynaliadwy
  • hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol

Os byddwch chi'n ennill, byddwch chi’n:

  • cael eich gwahodd i dderbyniad Brenhinol
  • derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Brenin, sef Arglwydd Raglaw
  • gallu chwifio baner Gwobrau'r Brenin yn eich prif swyddfa, a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft ar eich deunydd pacio, hysbysebion, deunydd ysgrifennu a gwefan) 
  • derbyn Grant Penodi (tystysgrif swyddogol) a thlws crisial coffaol.

Mae'r gwobrau'n ddilys am 5 mlynedd.

Mae'r enillwyr wedi dweud eu bod wedi elwa o gydnabyddiaeth fyd-eang, mwy o werth masnachol, mwy o sylw yn y wasg a hwb i ysbryd staff.

Mae modd gwneud cais ar gyfer Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn rhad ac am ddim. Gallwch wneud cais ar gyfer mwy nag un wobr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1pm ar 12 Medi 2024.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: The King's Awards for Enterprise: About the awards - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.