Newyddion

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2024

 teacher talking to her student in computer class

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru.

Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd fod mentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus.

Categorïau gwobrau:

  • Addysg Uwch
  • Addysg Bellach
  • Lleoliad Gweithle
  • Addysg Gymunedol
  • Cymraeg i Oedolion
  • Ysgol neu leoliad arall

Dyddiad cau cynigion yw dydd Llun 15 Ionawr 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan: Ysbrydoli! Gwobrau Tiwtoriaid - enwebiadau ar agor - (sefydliaddysguagwaith.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.