Newyddion

Gwobrau UK Technology Fast 50 2025

Computer technician

UK Technology Fast 50 yw un o raglenni gwobrau technoleg mwyaf blaenllaw’r DU, sy’n cydnabod y 50 cwmni technoleg sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

Mae rhaglen UK Technology Fast 50 yn cynnwys pum categori:

  • UK Technology Fast 50
  • Fast 50 Menywod yn Arwain
  • Enillwyr Rhanbarthol
  • Sêr Disglair y Dyfodol
  • Technoleg Lân

Mae cael eich cydnabod fel un o enillwyr y Technology Fast 50 yn arwydd anrhydeddus o lwyddiant, ac yn cynnig y pethau canlynol i gwmnïau:

  • Gwell adnabyddiaeth brand ac adnabyddiaeth ymysg cwsmeriaid
  • Mwy o sylw gan fuddsoddwyr
  • Effaith gadarnhaol ar recriwtio gweithwyr, eu cadw a’u morâl
  • Sylw yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol ac ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio yn seremoni wobrwyo arbennig enillwyr Fast 50

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Home | UK Technology Fast 50 | Deloitte UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.