Newyddion

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2026

Whitewater rafting at the National Whitewater Centre, Bala, North Wales.

Cydnabod y cyfraniadau eithriadol sy'n gwneud Gogledd Cymru yn lle gwych i ymwelwyr.

O arloesedd i wasanaeth cwsmeriaid eithriadol, mae'r gwobrau yn tynnu sylw at y gorau ar draws y rhanbarth.

Dyma gategorïau’r gwobrau eleni:

  • Busnes Twristiaeth Newydd Gorau’r Flwyddyn
  • Busnes Ystyriol o Anifeiliaid Anwes Gorau’r Flwyddyn
  • Gwobr Twristiaeth Bro a Byd (Moesegol, Cyfrifol a Chynaliadwy)
  • Bwyty Gorau’r Flwyddyn
  • Bistro, Caffi neu Siop Goffi Orau’r Flwyddyn
  • Gweithgaredd neu Brofiad Gorau’r Flwyddyn
  • Atyniad Ymwelwyr Gorau’r Flwyddyn
  • Gwobr Twristiaeth a Chynaliadwyedd 4 Tymor
  • Gwesty Gorau’r Flwyddyn
  • Llety Hunanarlwyo Gorau'r Flwyddyn
  • Gwely a Brecwast, Tŷ Tafarn neu Westy Bach Gorau’r Flwyddyn
  • Maes Glampio, Gwersylla neu Barc Carafannau Gorau’r Flwyddyn
  • Parc Gwyliau Gorau'r Flwyddyn
  • Gwobr Ysbryd Gogledd Cymru
  • Marchnata a Chydnabyddiaeth Cyfryngau Orau’r Flwyddyn
  • Gwasanaeth Twristiaeth / Cyflenwr Cynnyrch Gorau’r Flwyddyn
  • Gwobr Person Ifanc mewn Twristiaeth a Lletygarwch
  • Gwobr Mordaith Gogledd Cymru
  • Gwobr Gwasanaeth i Dwristiaeth

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd hanner nos ddydd Sul 4 Hydref 2026.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Go North Wales Tourism Awards.

Delwedd © Crown Copyright


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.