Newyddion

Gwobrau Technoleg Ymgolli 2025 Innovate UK

Immersive game, person wearing a gaming headset

Mae Gwobrau Technoleg Ymgolli Innovate UK yn dychwelyd ar gyfer 2025!

Nod y gwobrau unigryw hyn yw helpu i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant realiti estynedig (XR). Y syniad yw darganfod ble mae’r dalent XR orau yn y Deyrnas Unedig, a chreu llwybr o ddysgu academaidd i ddatrys problemau yn y byd go iawn trwy gyfleoedd interniaeth mewn cwmnïau blaenllaw sy’n arloesi â thechnoleg ymgolli.

Dyma gategorïau eleni:

  • Gêm Ymgolli Orau
  • Adrodd Straeon XR Creadigol
  • Synhwyraidd
  • Arloesedd Technegol
  • Dylunio profiad y defnyddiwr (UX) a’r rhyngwyneb defnyddiwr (UI)

Y dyddiad cau ar gyfer pob categori yw 16 Mawrth 2025.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Innovate UK Immersive Tech Network → Innovate UK Immersive Tech Awards 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.