Mae Gwobrau STEM Cymru yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Cymru.
Gan gydnabod rhagoriaeth, arloesedd ac effaith, mae’r gwobrau’n anrhydeddu’r busnesau, sefydliadau addysgol, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n helpu i yrru twf economaidd, mynd i’r afael â heriau sgiliau, hyrwyddo amrywiaeth ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru.
Y categorïau eleni yw:
- Gwobr Arloesedd mewn STEM
- Gwobr Cynaliadwyedd
- Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus)
- Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Preifat)
- Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Di-elw)
- Cwmni’r Flwyddyn (o dan 50 o weithwyr)
- Cwmni’r Flwyddyn (dros 50 o weithwyr)
- Llysgennad y Flwyddyn
- Menyw’r Flwyddyn
- Seren Newydd y Flwyddyn
- Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
- Busnes Newydd y Flwyddyn
- Tîm y Flwyddyn
- Cydweithrediad STEM y Flwyddyn
- Gwobr Llunio’r Dyfodol
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Awst 2026.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar 1 Hydref 2026 yn Techniquest Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gwobrau STEM Cymru 2026.