Newyddion

Gwobrau STEM Cymru 2025

People working in technology

Bydd Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at y sefydliadau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth i'r agenda STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) yng Nghymru.

Bydd y gwobrau yn dathlu'r rhai sy'n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy'n creu effaith ar economi Cymru, y rhai sy'n mynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth yn STEM a phrinder sgiliau, a'r rhai sy'n ysbrydoli ac yn codi dyheadau'r genhedlaeth nesaf.

Dyma'r categorïau eleni:

  • Gwobr Arloesedd mewn STEM
  • Gwobr Cynaliadwyedd
  • Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus)
  • Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Preifat)
  • Rhaglen Addysgol y Flwyddyn
    (Nid er elw)
  • Cwmni y Flwyddyn (dan 50 o weithwyr)
  • Cwmni y Flwyddyn (dros 50 o weithwyr)
  • Llysgennad y Flwyddyn
  • Menyw y Flwyddyn
  • Seren Newydd y Flwyddyn
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Prosiect Ymchwil y Flwyddyn
  • Bargen y Flwyddyn
  • Tîm y Flwyddyn

Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5pm ar 25 Gorffennaf 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Gwobrau 2025 | Gwobrau STEM Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.