Mae Gwobrau Rhagoriaeth Arloesi The Stationers Company yn dathlu'r sefydliadau, y timau a'r unigolion sy'n llunio dyfodol diwydiannau cyfathrebu, cynnwys, argraffu, pecynnu, cyhoeddi, papur, gweithgynhyrchu a thechnoleg greadigol y DU.
Mae'r Gwobrau yn cydnabod arloesedd sy'n cael effaith wirioneddol, o ddylunio cynnyrch a phrofiad cwsmeriaid i dechnoleg addysg, cynaliadwyedd, gwyddor deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
Dyma'r categorïau eleni:
- Proses Fusnes
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Profiad y Cwsmer
- Technoleg Addysg
- Dylunio Cynnyrch
- Busnes Newydd
- Gweithgynhyrchu
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Mehefin 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Innovation Excellence Awards Intro.
Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.