Newyddion

Gwobrau Menywod mewn Busnes Gwyrdd 2024

Women in Green Business Awards 2024

Mae Business Green wedi lansio Gwobrau Menywod mewn Busnes Gwyrdd 2024 a bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Llundain ar 3 Hydref 2024.

Mae'r gwobrau'n dathlu menywod a chwmnïau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn economi werdd y DU gyda'r nod o wella amrywiaeth, cynhwysiant, cynhyrchiant a chynaliadwyedd.

Yn cynnwys 24 categori, wedi'u rhannu rhwng gwobrau i gwmnïau ac unigolion, mae'r digwyddiad yn llwyfan i ddod ag arweinwyr sy'n ysgogi newid cadarnhaol yn y diwydiant at ei gilydd.  Cyflwynwch eich enwebiadau erbyn hanner nos ar 19 Ebrill 2024: Gwobrau Menywod mewn Busnesau Gwyrdd 2024 - Enwebu (businessgreen.com)

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau Menywod mewn Busnes Gwyrdd 2024 (businessgreen.com)
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.