
Mae modd gwneud cais ar gyfer Gwobrau Made in the UK, Sold to the World, yr Adran Busnes a Masnach, a bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 23:59 ar 9 Mawrth 2025.
Mae'r DU yn dyfeisio, yn creu, yn datblygu, yn gwneud ac yn cynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau anhygoel sy'n cael eu gwerthu i'r byd. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiant allforio busnesau bach y DU.
Cyflwynwch gais yn un o'r categorïau canlynol:
- Gweithgynhyrchu Uwch ac Adeiladu
- Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod
- Ymgynghoriaeth a Gwasanaethau Proffesiynol
- Y Diwydiannau Creadigol
- Technoleg Digidol a Thechnoleg
- Addysg a Thechnoleg Addysg
- Gwasanaethau Ariannol a Thechnoleg Ariannol
- Gofal Iechyd
- Seilwaith a Pheirianneg
- Ynni Carbon Isel
- Manwerthu a Nwyddau Traul
- Gwasanaethau Allforio
Bydd enillwyr 2025 yn derbyn:
- aelodaeth busnes y Sefydliad Siartredig Allforio a Masnach Ryngwladol yn rhad ac am ddim am flwyddyn
- dosbarth meistr cyfalaf gweithio gyda Lloyds Bank
- hyrwyddo pwrpasol ar sianeli'r Adran Busnes a Masnach
- lluniau proffesiynol o'u busnes a hawliau defnyddio
- gwahoddiad i dderbynfa'r enillwyr yn Senedd y DU
- tlws, tystysgrif a bathodyn digidol
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: 2025 Awards now open for entry