Newyddion

Gwobrau Gweithgynhyrchu 2023

Mae Gwobrau Gweithgynhyrchu Make UK 2023 yn cydnabod ac yn gwobrwyo gweithgynhyrchwyr a'u prentisiaid sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn y sector. 

Wedi'i farnu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol gan arbenigwyr annibynnol yn y diwydiant, mae'r gystadleuaeth drylwyr hon yn taflu goleuni ar y gweithgynhyrchwyr a'r mentrau gorau ar draws ystod o gategorïau – gan wobrwyo newid, arloesi, arfer gorau, a phobl. 

Mae'r gwobrau'n agored i bob gweithgynhyrchydd. Gallwch nodi un neu fwy o gategorïau, i gyd drwy gais ar-lein.

Am ragor o wybodaeth ewch i Make UK Manufacturing Awards | Make UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.